Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Ddiabetes.

Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a'r cyfarfod cyffredin a gynhaliwyd ddydd Mawrth 23 Chwefror, 2016, yn Ystafell Gynadledda 21 yn Nhŷ Hywel.

 

Yn bresennol

Jenny Rathbone AC (Cadeirydd)

Jeff Cuthbert AC

Kirsty Williams AC

Vaughan Gething AC

Altaf Hussain AC

John Griffiths (Aelod lleyg)

Julia Platts (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol)

Camilla Horwood (Novo Nordisk)

Julia Coffey (Johnson & Johnson)

Becky Reeve (Sanofi)

Jason Harding (Diabetes UK Cymru)

Dai Williams (Diabetes UK Cymru)

Sara Moran (Diabetes UK Cymru)

Pip Ford (y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi)

Robert Koya Rawlinson (Novo Nordisk)

Greg Titley (Aelod lleyg)

David Chapman (Yn cynrychioli Medtronic)

Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC)

Helen Hayes (Aelod lleyg)

Sarah Davies (Canolfan Feddygol Woodlands)

Alex Locke (Johnson & Johnson)

Julia Coffey (Johnson & Johnson)

Wendy Gane (Cymorth gan eraill sydd â Diabetes)

Yvonne Johns (Grwpiau Cyfeirio Diabetes Gogledd Cymru)

John Griffiths (Aelod lleyg)

Matthew Russell (Merck Sharp & Dohme)

Andrew Crowder (Aelod lleyg)

Steve Bain (Prifysgol Abertawe)

Jennifer Perry (Cynrychiolydd cleifion)

Steve Perry (Cynrychiolydd cleifion)

Robert Lee (Cynrychiolydd cleifion, Caerdydd a'r Fro)

Elaine Adams (Cynrychiolydd cleifion, Caerdydd a'r Fro)

Keith Marshall (Cynrychiolydd cleifion, Caerdydd a'r Fro)

Norah Marshall (Cynrychiolydd cleifion, Caerdydd a'r Fro)

Jennifer Armand (Cynrychiolydd cleifion, Caerdydd a'r Fro)

Samantha Chohan (Cynrychiolydd cleifion, Caerdydd a'r Fro)

Mr Stephen Sims (Grŵp Diabetes UK Cymru yng Nghaerdydd)
Mrs Cheryl Sims (Grŵp Diabetes UK Cymru yng Nghaerdydd)

 

           

Ymddiheuriadau

Angela Magny (Roche Diabetes Care)

Pip Ford (y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi)

Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)

Paul Coker (Aelod lleyg)

Robert Wright (Aelod lleyg)

Dr Lindsay George (Ymgynghorydd Diabetes)

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

i)             Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol

Cadeiriodd Dai Williams y cyfarfod a diolchodd i Jenny Rathbone am ei holl waith fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Rhoddodd drosolwg o'r adroddiad blynyddol a'r datganiad ariannol a anfonwyd at aelodau'r grŵp. Cytunwyd eu bod yn gofnod cywir.

ii)            Ethol swyddogion

Ailetholwyd Jenny Rathbone AC yn Gadeirydd. Dywedodd Dai Williams fod gan Helen Cunningham swydd newydd, ac felly ni fyddai'n parhau fel Ysgrifennydd y grŵp. Diolchodd iddi am ei chefnogaeth. Cytunwyd y byddai Jason Harding o Diabetes UK Cymru yn ymgymryd â rôl yr Ysgrifennydd tan ar ôl yr etholiad, ac y byddai'r sefyllfa hon yn cael ei hadolygu gyda dyfodiad y Pumed Cynulliad. Cytunwyd ar y cynnig hwn yn ystod y cyfarfod.

Cyfarfod cyffredin

1.    Trafodaeth banel

Cadeiriodd Jason Harding y panel. Aelodau'r panel oedd: Vaughan Gething AC (y Dirprwy Weinidog Iechyd) ar ran y Blaid Lafur, Kirsty Williams AC ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac Altaf Hussain AC ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

 

Manteisiodd bob un o lefarwyr y pleidiau ar y cyfle hwn i amlinellu eu blaenoriaethau mewn perthynas â diabetes. Soniodd Kirsty Williams am gael trefn gyson o ran gweithredu ac am ganolbwyntio ar fesurau ataliol. Dywedodd fod gwersi y gellir eu dysgu gan lefydd fel Philadelphia o ran sut y mae mesurau fel sicrhau mynediad at fannau gwyrdd wedi cyfrannu at leihau cyfraddau diabetes. Dywedodd hefyd fod sicrhau mynediad at nyrsys ac addysg arbenigol yn helpu pobl i reoli eu cyflwr yn well.

 

Siaradodd Altaf Hussain am bwysigrwydd atal diabetes ymhlith plant. Siaradodd am yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Goleg Brenhinol y Pediatregwyr ar effaith llygredd yn yr awyr agored ar blant, a sut y gallwn ddysgu gwersi am ddiabetes o'r adroddiad hwnnw hefyd. Dywedodd Altaf fod un rhan o chwech o'r boblogaeth mewn perygl o gael diabetes math 2. Amlinellodd addewid y Ceidwadwyr Cymreig o ran sicrhau asesiad meddygol yn y cartref ar gyfer yr holl bobl sy'n cael pensiwn y wladwriaeth.

 

Amlinellodd Vaughan Gething gerrig milltir pwysig gan gynnwys y cam o gael arweinydd clinigol ar gyfer diabetes a chael grŵp gweithredu ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes. Rhybuddiodd fod mwy o waith i'w wneud a bod y gost o ddarparu gofal iechyd yn her fawr yn wyneb y toriadau a gafwyd o San Steffan. Roedd Vaughan yn optimistaidd am y ffaith bod cyfraddau diabetes yn ymddangos fel petaent yn gwastatáu, a dywedodd mai ei nod oedd helpu pobl i gymryd perchnogaeth dros eu hanghenion iechyd.

 

Ymddiheurodd Kirsty Williams am y ffaith bod yn rhaid iddi adael y cyfarfod er mwyn cadw apwyntiad arall.

 

Atebodd y panel gwestiynau a ofynnwyd gan y gynulleidfa, gan gynnwys cwestiynau am sicrhau gofal iechyd gwell ymhlith pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, stigmateiddio pobl â diabetes, ac addysg i gleifion.

 

Nododd Vaughan fod nifer llai o drychiadau yn digwydd yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Ychwanegodd Altaf y gallai ymyrraeth gynnar leihau'r cyfraddau hyn ymhellach. Cafwyd trafodaeth am gyflwyno treth siwgr ac am rinweddau gorfodaeth wirfoddol neu orfodol.

 

Diolchodd Jason i'r panel a phawb arall a oedd yn bresennol am eu cyfraniad cyn dod â'r cyfarfod i ben.

 

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf: I'w gadarnhau ar ôl etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.